P-05-739– Achub Gwasanaethau TWF
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cymdeithas yr Iaith ar
ôl casglu 912 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Mudiad
Meithrin, i ailystyried penderfyniad andwyol y llywodraeth
ddiwethaf i ddiddymu prosiect TWF. Yn benodol, rwy'n galw ar y
Llywodraeth i weithredu ar frys i:
- wrthdroi'r
penderfyniad o dorri £200,000 i'r prosiect sy'n olynu
TWF
- adfer
parhad o’r cymorth yr oedd TWF yn ei gynnig a oedd yn
canolbwyntio ar drosglwyddiad iaith a chefnogi babanod a rhieni
newydd yn genedlaethol, hytrach nag yn dameidiol. Byddai hyn yn
golygu adfer swyddi i swyddogion gyda phresenoldeb yn Sir
Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys
Môn, Sir Fynwy, Tor-faen a Wrecsam.
- sicrhau
cyllid ar gyfer gweithgareddau hybu’r Gymraeg i rieni sydd
â chysylltiadau â gwasanaethau megis Cymraeg i
Oedolion, y Mentrau Iaith, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden,
gan gynnwys gweithgareddau sy'n rhoi cymorth i iechyd meddwl
ôl-enedigol hefyd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Ceredigion
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru